Bydd tad i fachgen a fu farw ar ôl cael anaf i’w ben wrth chwarae rygbi, yn cwrdd â’r Gweinidog Addysg heddiw er mwyn codi ymwybyddiaeth o anafiadau pen mewn ysgolion.
Fe fu farw Ben Robinson, 14, ar ôl sawl ergyd i’w ben wrth chwarae i dîm ei ysgol yng ngogledd Iwerddon yn 2011.
Cafodd ei daro’n anymwybodol, ond fe aeth yn ôl ar y cae a chario mlaen i chwarae. Fe fu farw’n ddiweddarach yn yr ysbyty.
Ar ôl cwrdd â gweinidogion o’r Alban a Gogledd Iwerddon, mae Peter Robinson, tad Ben, yn cwrdd â Huw Lewis yng Nghaerdydd heddiw mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o anafiadau difrifol i’r pen.
Diogelwch
Mae Huw Lewis wedi diolch i Peter Robinson am ddod a’r mater i’w sylw. Dywedodd:
“Mae diogelwch pobol ifanc wrth wneud chwaraeon, o fewn a thu allan i gae’r ysgol, yn holl bwysig, yn enwedig mewn gem gyswllt fel rygbi.
“Mae hi’n bwysig i bawb sy’n ymwneud a hyfforddi neu reoli’r gêm i fod yn ymwybodol o’r peryglon y gall anafiadau pen eu hachosi.”