Mae cwmni ynni npower wedi cadarnahu y bydd 1,460 o swyddi’n diflannu gyda’r cwmni a rhai swyddi’n cael eu symud i India.
Fe fydd gwaith mewn canolfannau galwadau yn cael ei drosglwyddo i gwmniau Capita a Tata Consultancy.
Dywed npower y bydd cwsmeriaid yn dal i gael eu gwasanaethu ar y ffon gan staff mewn canolfannau galwadau yn y DU gyda dyletswyddau swyddfa’n symud i India.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan berchennog npower – RWE – yn gynharach y mis yma, y byddai 6,750 o swyddi’n diflannu ledled Ewrop.
Dywedodd llefarydd ar ran npower fod y cwmni yn cynnal adolygiad o’r gwasanaeth, y safleoedd, a’r gweithwyr.
“Mae hyn yn digwydd er mwyn gwella ein gwasanaeth i gwsmeriaid a chadw ein prisiau i lawr, mewn amser o straen mawr ar filiau ynni teuluoedd,” meddai.
Bydd swyddfeydd npower yn Stoke on Trent yn cau, gan effeithio 550 o weithwyr, ac un o dri o’i swyddfeydd yn Oldbury, gan olygu y bydd 400 o staff yn cael eu diswyddo. Bydd diswyddiadau hefyd yn Rainton Bridge, Sunderland, gan effeithio 430 o swyddi, ac yn Leeds, gan effeithio 80 o weithwyr.
‘Hunllef cyn y Nadolig’
Mae undeb Unsain wedi dweud bod y penderfyniad yn “hunllef cyn y Nadolig i staff a chwsmeriaid” gan rybuddio y bydd npower yn gwneud difrod i enw’r cwmni.
Dywedodd Matthew Lay o Unsain: “Mae npower wedi gadael ei chwsmeriaid a’i staff i lawr yn barod drwy beidio â buddsoddi digon o arian yn eu gweithlu, eu technoleg a thechnegau i ymdrin â chwsmeriaid.
“Mewn amser ble mae diweithdra yn uchel, pa fath o ymrwymiad mae symud swyddi i India yn ei ddangos i Brydain?”