Barack Obama
Mae Llywodraeth Barack Obama yn cynnig dinistrio rhai o arfau cemegol Syria yn y môr gan ddefnyddio un o longau’r Unol Daleithiau.
Fe fyddai’r cynllun, sydd heb gael ei gymeradwyo’n derfynol hyd yn hyn, yn golygu dinistrio’r arfau ar fwrdd yr MV Cape Ray ym Môr y Canoldir, gyda llongau Llynges yr Unol Daleithiau ar batrôl gerllaw.
Byddai’n osgoi problemau diplomyddol, amgylcheddol a diogelwch a fyddai’n codi drwy ddinistrio’r arfau ar y tir.