Bydd rhaid i unrhyw le sy’n gweini neu werthu bwyd yng Nghymru arddangos sgôr hylendid bwyd mewn lle amlwg o heddiw ymlaen, o dan gyfraith newydd sydd wedi ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Os yw’r cwmni bwyd wedi cael archwiliad ar, neu ar ôl, Tachwedd 28, bydden nhw’n derbyn sgôr o 0-5 ynglŷn â sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a’i gadw, cyflwr y lleoliad, a sut y rheolir diogelwch bwyd o fewn y busnes. Mae sgôr o 5 yn golygu bod safonau hylendid yn dda iawn.

Mae’r cynllun statudol newydd yma’n seiliedig ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd gwirfoddol presennol, sy’n cael ei redeg yng Ngwynedd gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Diogelu iechyd

Mae’r cynllun yn ymdrin â mannau lle mae pobl yn bwyta’n gyhoeddus, gan gynnwys bwytai, siopau tecawê, arlwywyr symudol, caffis, gwestai a thafarndai; siopau bwyd fel archfarchnadoedd, siopau becws a siopau delicatessen; a lleoliadau fel ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd a chartrefi gofal preswyl.

Os yw swyddogion yn darganfod materion a all beryglu iechyd y cyhoedd, mi fydd camau yn cael eu cymryd sydd yn cynnwys cau’r eiddo.

Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Warchod y Cyhoedd: “Pan fydd pobl yn prynu bwyd, maen nhw am fod yn siŵr bod lle maen nhw’n ei brynu yn dilyn arferion hylendid da.

“Golygai’r drefn newydd y bydd y sawl sy’n prynu bwyd yn gallu gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth ar y llefydd glanaf i brynu a bwyta bwyd. Wedi’r cwbl, os nad ydi’r busnesau hynny’n lân, gall beryglu iechyd eu defnyddwyr, o achosion bach o wenwyn bwyd i salwch llawer mwy difrifol, neu farwolaeth hyd yn oed.”

Bydd y sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar ratings.food.gov.uk