Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi yfory y bydd sigaréts yn cael eu gwerthu mewn pacedi plaen erbyn 2015.

Yn ôl adroddiadau, mae’r Prif Weinidog wedi penderfynu parhau a’r gwaharddiad ar bacedi sydd wedi eu labelu, er iddo benderfynu ym mis Gorffennaf na fyddai’n parhau a’r cynlluniau.

Dywedodd y Llywodraeth bryd hynny y byddai’n aros i weld pa mor effeithiol oedd y cynllun i werthu pacedi plaen yn Awstralia cyn gwneud unrhyw newidiadau. Maen nhw bellach wedi dweud eu bod yn monitro’r sefyllfa.