Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith a rhieni plant sydd mewn ysgolion pentrefol yng Ngheredigion yn cynnal protest tu allan i bencadlys y cyngor heddiw.
Daw’r ymgyrch wrth i Estyn, y corff arolygu addysg a hyfforddiant, gynnal arolwg o’r Cyngor Sir.
Mae Cymdeithas yr Iaith a’u cefnogwyr eisiau i Gyngor Sir Ceredigion ac Estyn sicrhau y bydd ysgolion bach, pentrefol y sir sydd dan fygythiad yn cael eu cadw ar agor.
Meddai llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, bod Estyn yn trin ysgolion “fel ffatrïoedd hyfforddiant yn hytrach nag fel canolfan eu cymunedau, ac yn anfon neges wael iawn i’r plant.”
Ychwanegodd bod y Cyngor Sir yn “cymryd diléit” mewn cau ysgolion.
Meddai Ffred Ffransis: “Mae’r Awdurdod wedi anwybyddu llais y gymuned yn Llanafan er eu bod nhw wedi derbyn mwy o lythyrau cefnogaeth nag erioed o’r blaen. Maent wedi
symud i gynnig cau’r ysgol heb ystyried opsiwn ffederasiwn ffurfiol o nifer o ysgolion y fro.
“Maent hefyd am aberthu Ysgol Llanddewi Brefi yn unig er mwyn ceisio denu cyllid gan Lywodraeth Bae Caerdydd. Ac meant yn awr yn dial ar ysgolion eraill gan na fu unrhyw gefnogaeth i’w delfryd o un ysgol fawr ganolog i Ddyffryn Aeron.”
Mae Cymdeithas yr Iaith o’r farn bod ysgolion pentrefol yn “asedau pwysig” i adfywio pentrefi gwledig Cymraeg.