David Jones
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddadlau bod pedair cenedl y DU yn well yn aros gyda’i gilydd mewn araith heno.

Bydd David Jones AS yn traddodi darlith ‘Datganoli yn yr Undeb Parhaus’ heno i Gymdeithas Undeb Durham.

Deuddydd wedi i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi papur gwyn ar annibyniaeth, bydd David Jones yn dadlau bod annibyniaeth i’r Alban yn “gambl anferth”.

Bydd hefyd yn ategu sylwadau David Cameron yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe wrth ddweud nad yw’r papur gwyn yn rhoi unrhyw atebion i’r cwestiynau sy’n codi petai’r undeb  presennol yn gwahanu.

Mae disgwyl i David Jones ddweud bod Yr Alban eisoes yn rhan o un o undebau mwyaf llwyddiannus yn y byd a’u bod nhw, fel Cymru, yn manteisio o ddwy lywodraeth yn gweithio o’u plaid.