Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o drefnu canlyniadau gemau pêl droed yn Lloegr, meddai’r heddlu.

Yn ôl adroddiadau ym mhapur y Daily Telegraph mae tri phêl-droediwr cyfredol ac asiant ymhlith y rhai sydd wedi’u harestio fel rhan o ymgyrch yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA) i dargedu “syndicet betio cenedlaethol”.

Cafodd y chwech eu harestio ar ôl i ohebwyr cudd drafod dylanwadu ar gemau pêl-droed am gyn lleied â £50,000.

Dywedodd yr NCA eu bod yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Gamblo a’r Gymdeithas Bêl-droed (FA). “Mae’r ymchwiliad yn parhau felly ni allwn roi rhagor o fanylion ar hyn o bryd,” meddai’r NCA.

Yn ôl llefarydd ar ran yr FA, maen nhw’n ymwybodol o’r arestiadau sydd wedi cael eu gwneud ac wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau mewn cysylltiad â’r honiadau. Nid oedd yr FA yn fodlon gwneud datganiad pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau.