Mae tad Gary Speed yn dweud fod ei deulu’n dal i deimlo’r golled yn enfawr, ddwy flynedd ar ôl i Speed ladd ei hun.
Cafwyd hyd i gorff cyn-reolwr Cymru, 42 oed, ddwy flynedd yn ôl yn garej ei gartref yn agos i Gaer, wedi iddo grogi’i hun.
Dywedodd ei dad Roger wrth bapur y Daily Post fod y trychineb wedi taro’r teulu i’r byw, ac y byddai gwyliau’r Nadolig yn gyfnod anodd iddyn nhw.
“Rydym ni i gyd yn colli Gary cymaint,” meddai Roger Speed. “Mae wedi bod mor galed arnom ni i gyd – yn enwedig ei fam Carol.
“Roedd Gary’n dwlu ar y Nadolig. Bydden ni’n treulio’r gwyliau bob yn ail flwyddyn unai yn ei dŷ ef neu dŷ ei chwaer Lesley.
“Ryden ni’n dal i alaru a methu credu nad ydi o yma efo ni. Dw i ddim yn meddwl y gwnawn ni fyth ddod dros y peth.”
Y cefndir
Daethpwyd o hyd i gorff Speed yn ei gartref, gydag amheuon ei fod yn dioddef o iselder ar y pryd. Dywedodd y crwner yn y cwest i’w farwolaeth nad oedd yn medru bod yn sicr fod Speed wedi bwriadu cymryd ei fywyd.
Roedd yn rheolwr ar dîm cenedlaethol Cymru pan fu farw, ac yn gyn-chwaraewr yn Leeds, Everton, Newcastle, Bolton a Sheffield United, yn ogystal ag ennill 85 o gapiau dros ei wlad.
Gosodwyd blodau y tu allan i swyddfeydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw i gofio Speed, gyda datganiad ar wefan y Gymdeithas yn talu teyrnged i’w waith fel rheolwr ac yn estyn eu cydymdeimladau parhaol i’w deulu.
Talwyd teyrnged iddo hefyd gan nifer eraill o’r byd pêl-droed oedd yn ei adnabod, gan gynnwys is-reolwr Cymru Osian Roberts a chwaraewr canol cae Arsenal Aaron Ramsey, oedd yn gapten ar Gymru o dan Speed.
“2 flynedd heibio RIP fy ffrind” oedd neges Osian Roberts ar ei gyfrif trydar neithiwr.
Trydarodd Ramsey heddiw: “Dwy flynedd heibio ac mae dal yn sioc. RIP Gary Speed”.
Ac fe ddywedodd Bryn Law, sylwebydd pêl-droed i Sky Sports oedd yn ffrind agos i Speed: “Meddwl am y teulu Speed heddiw. Teulu ffantastig, cynnes a chariadus oedd byth yn haeddu’r diwrnod cofio yma. Dal yn methu Gary. RIP”.