Fe gafodd o leia’ dri o bobol eu lladd pan ddymchwelodd rhan o’r stadiwm fydd yn gartref i seremoni agoriadol Cwpan y Bêl-droed y Byd ym Mrasil.
Gallai’r ddamwain yn Sao Paulo hefyd ohiro’r broses o drosglwyddo’r stadiwm i ddwyllo Cymdeithas Pêl-droed y Byd, FIFA.
Maen nhw wedi galw am i bob un o 12 stadiwm y bencampwriaeth fod yn barod erbyn mis Rhagfyr.
Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth strwythur metel enfawr ddisgyn ar ben y stadiwm, gan ddinistrio rhan o’r eisteddle ar un ochr.