Chris Dicomidis (o wefan Pontypridd)
Mae rhanbarth y Gleision wedi cyhoeddi fod y clo Chris Dicomidis wedi arwyddo cytundeb i ymuno â nhw o Bontypridd.
Daw’r cyhoeddiad ychydig wythnosau ar ôl i gyn-brif hyfforddwr Pontypridd, Dale McIntosh, adael ei swydd i ymuno â’r Gleision yn hyfforddwr y blaenwyr.
Mae Pontypridd, a oedd yn Dîm yr Wythnos ar golwg360 yn ddiweddar, yn colli eu capten yn ogystal â chwaraewr allweddol, ar ôl i Dicomidis arwain y tîm ers 2010.
Mae’r clo 28 oed, sydd yn 6 troedfedd 6 modfedd, wedi chwarae i Gymru ar lefel ieuenctid yn ogystal ag i’r Barbariaid a Chyprus.
Mae’n arwyddo cytundeb proffesiynol llawn gyda’r Gleision – cytundeb sydd, yn ôl y clwb, yn un “hir dymor”.
Wedi cyffroi
“Dwi wedi cyffroi o gael y cyfle i fod yn rhan o garfan y Gleision a chymryd fy nghyfle mewn rygbi proffesiynol,” meddai Dicomidis mewn datganiad.
“R’ych chi wastad yn gobeithio cael yr alwad i ymuno â thîm proffesiynol a dw i wedi siarad gyda Dale am y rhanbarth a beth maen nhw’n ei ddisgwyl.
“Dw i wedi cael amser anhygoel ym Mhontypridd, wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac fe fydda i’n gadael gydag atgofion melys.”
‘Cyfle i wneud ei farc’
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Gleision Phil Davies fod cyfle i Dicomidis wneud ei farc yn nhîm y rhanbarth.
“Mae Chris yn rhywun dw i’n ei nabod yn dda ac mae gan Chief (Dale McIntosh) berthynas agos iawn gydag ef o’u cyfnod gyda Ponty,” meddai Phil Davies.
“Bydd e’n cryfhau’n opsiynau ni yn yr ail reng, gyda Lou Reed a Bradley Davies allan gydag anafiadau ar hyn o bryd.”
Cafodd Bradley Davies ei anafu wrth chwarae dros Gymru yn ystod gêmau’r hydref, ac mae disgwyl iddo fod allan am rai misoedd oherwydd anaf i’w ysgwydd.