George North
Mae clwb rygbi Seintiau Northampton wedi derbyn eu bod nhw “y tu allan i bolisi bwrdd Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr” ar ôl i’r asgellwr George North gael ei ryddhau ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Ond ychwanegodd y clwb nad ydyn nhw wedi “torri unrhyw reolau, cyfreithiau neu reoliadau” y gynghrair.
Mae’n edrych yn debygol y bydd Northampton yn cael eu hymchwilio gan Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr oherwydd bod gêm Awstralia yn disgyn y tu allan i ffenestr gemau rhyngwladol swyddogol y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.
Polisi Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr yw na ddylai unrhyw chwaraewyr, sydd ddim yn chwarae i Loegr, gael ei ryddhau ar gyfer gemau y tu hwnt i’r cyfnod swyddogol.
Mae prop Cymru, Paul James, wedi dychwelyd i Gaerfaddon yr wythnos hon tra bod chwaraewyr Perpignan James Hook a Luke Charteris hefyd wedi gadael carfan Cymru i ailymuno a’u clwb.
Mewn datganiad, dywedodd Northampton: “Mae George yn ddyn ifanc sy’n falch iawn o gael cynrychioli ei wlad. Yn wir, mae rheolwyr y clwb am i bob chwaraewr yn y clwb gael y cyfle i gyrraedd y lefel uchaf ac am i bob chwaraewr gael yr uchelgais i wisgo eu crys cenedlaethol.
“Mae George yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd, sydd wedi dod â llawer o gyffro ac ansawdd, nid yn unig i’r Seintiau ond i Uwch Gynghrair Aviva fel cystadleuaeth, yn ei amser byr yng Ngerddi Franklin.
“Er mwyn gwireddu’r cyfle prin o ddod a chwaraewr fel George i Erddi Franklin, rydym wedi cytuno i ganiatáu iddo gynrychioli Cymru os, a phryd, mae’n cael ei ddewis.”
Fe wnaeth George North, 21 , symud i Northampton o’r Scarlets yn gynharach eleni.