Rhydychen 0–0 Casnewydd

Cafodd Casnewydd bwynt digon derbyniol nos Fawrth yn erbyn y tîm ar frig yr Ail Adran, Rhydychen.

Mae’r gêm gyfartal yn Stadiwm Kassam serch hynny’n achosi iddynt ddisgyn o’r safleoedd ail gyfle yn y tabl.

Nid oedd tîm Justin Edinburgh wedi ildio gôl mewn pedair gêm cyn teithio i Rydychen ac mae’r rhediad rhagorol hwnnw’n parhau yn dilyn llechen lân arall.

Bu bron i Christian Jolley sgorio i’r Cymry yn y pen arall ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.

Does dim dwywaith fod hwn yn bwynt wedi ei ennill yn hytrach na dau wedi eu colli ond mae Casnewydd serch hynny’n llithro i’r wythfed safle yn y tabl yn dilyn buddugoliaethau i Burton a Scunthorpe.

.

Rhydychen

Tîm: Clarke, Hunt, Newey, Rose, Raynes, Mullins, Williams, Hall, Constable, Kitson, Ruffles (O’Dowda 67′)

Cardiau Melyn: Williams 3’, Rose 54’, O’Dowda 81’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Jackson, Willmott, Oshilaja, Worley, Yakubu, Chapman, Minshull (Naylor 73′), Jolley, Crow (Barker 67′), Washington

Melyn: Oshilaja 32’, Crow 62’, Worley 65’, Chapman 83’, Yakubu 90’

.

Torf: 5,042