Mae aelodau o uned arbennig o’r Fyddin wedi cyfaddef torri’r gyfraith drwy saethu at ddynion di-arf yr oedden nhw’n amau o fod yn aelodau o’r IRA yng ngorllewin Belfast yn ystod y Trafferthion yno.

Mae rhaglen ddogfen sy’n cael ei darlledu heno’n honni bod yr Heddlu Milwrol Adweithiol (MRF) hefyd wedi  saethu cenedlaetholwyr er nad oedd unrhyw dystiolaeth annibynnol bod unrhyw un ohonynt yn aelodau o’r grŵp gweriniaethol .

Roedd y milwyr yn credu nad oedd rheolau milwrol sy’n gwahardd saethu oni bai bod eu bywydau mewn perygl yn berthnasol iddyn nhw.

Dywedodd un wrth raglen Panorama’r BBC: “Doedden ni ddim yno i weithredu fel uned o’r Fyddin, roedden ni  yno i weithredu fel grŵp terfysgol.”

Mae twrnai cyffredinol Gogledd Iwerddon, John Larkin QC, wedi wynebu beirniadaeth yr wythnos hon ar ôl iddo awgrymu y dylai rhoi terfyn ar erlyniadau mewn llofruddiaethau sy’n gysylltiedig â’r Trafferthion.

Mae mwy na 3,000 o farwolaethau yn cael eu harchwilio gan dditectifs y Tîm Ymholiadau Hanesyddol fel rhan o’r broses heddwch .

Yr achos enwocaf o filwyr yn saethu ac yn lladd pobl ddiniwed yn ystod y Trafferthion yw Sul y Gwaed yn Deri yn 1972.

Yn ôl y rhaglen, roedd tua 40 o ddynion, oedd wedi eu dewis yn arbennig, yn rhan o’r Heddlu Milwrol Adweithiol. Roedden nhw’n annerch ei gilydd wrth eu henwau cyntaf ac yn hepgor rhengoedd a thagiau adnabod.

Roedden nhw’n gweithredu yn ystod anterth y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon yn y 1970au cynnar.

Mae gan y Fyddin gyfres o reolau Cerdyn Melyn sy’n esbonio pryd y gall milwr saethu at bobl yn gyfreithlon. Fe arfer, mae’n rhaid i fywydau’r milwyr fod mewn perygl uniongyrchol cyn y gallan nhw saethu.

Yn ôl  rhaglen Panorama mae saith o gyn-aelodau’r uned arbennig yn credu nad oedd y Cerdyn Melyn yn berthnasol iddyn nhw.

Mae cofnodion yr uned arbennig wedi cael eu dinistrio ond mae’r milwyr yn gwadu eu bod yn rhan o sgwad farwolaeth neu lofruddiaeth.