Y tren Virgin Trains wedi'r digwyddiad Llun: PA o gyfrif Twitter @J_L_Pickering
Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty ar ôl i dren Virgin Trains daro’r byffrau yng ngorsaf reilffordd Caer.

Roedd y trên yn teithio rhwng Llundain a Chaer pan ddigwyddodd y ddamwain toc wedi hanner dydd prynhawn ma.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a chafodd un person ei gludo i’r ysbyty fel mesur rhagofal.

Nid oedd unrhyw drên arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad ac nid yw gwasanaethau trên wedi’u heffeithio gan y digwyddiad.

Fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y ddamwain.