Mae Heddlu Sir Lincoln yn apelio am wybodaeth wedi i gerddwr ddod o hyd i arian parod gwerth £60,000 yn arnofio mewn afon wrth fynd a’i gi am dro.
Daethpwyd o hyd i’r arian mewn afon yn South Drove Drain ger Spalding ar Hydref 25 ac mae’r heddlu erbyn hyn wedi cael caniatâd gan ynadon i gynnal ymchwiliad er mwyn dod o hyd i berchennog yr arian.
Dywedodd y swyddogion a fu’n casglu’r arian fod rhan helaeth ohono wedi ei ddifrodi ond fod rhan sylweddol yn parhau i fod mewn cyflwr da.
“Nid bob diwrnod y mae rhywun yn dod o hyd i swm mor fawr o arian ac mae’n rhaid bod gan rywun wybodaeth i helpu’r heddlu i ddod o hyd i’r perchennog,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Steve Hull.
Bydd yr heddlu yn cynnal ymchwiliad pellach i’r darganfyddiad mewn trafodaethau gyda Banc Lloegr.