Fe fydd gyrrwr oedd wedi Trydar am ddamwain honedig yn ymwneud a seiclwr yn mynd gerbron llys heddiw.

Bydd Emma Way, 21, o Watton, Norfolk yn mynd gerbron Llys Ynadon Norfolk ar gyhuddiad o yrru’n ddiofal, methu ag aros ar ôl damwain, ac o fethu ag adrodd am y ddamwain.

Mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau. Dywedodd ei chyfreithiwr mewn gwrandawiad cynharach nad oedd hi’n  gyrru’n ddiofal ac oherwydd hynny nid oedd unrhyw ddyletswydd arni i adrodd y ddamwain.

Mae’n dilyn digwyddiad ym mhentref Rockland All saints, yn Norfolk yn ymwneud a’r seiclwr Toby Hockley.

Mae disgwyl i’r achos bara am 2 awr.