Carcharorion yn Guantanamo Bay
Mae’r carcharor olaf o Brydain sy’n cael ei gadw yn Guantanamo Bay wedi gwneud cyfweliad o’i gell am y tro cyntaf.

Bu Shaker Aamer, sydd wedi bod yn y carchar milwrol yn America ers 2002, yn siarad â’r rhaglen CBS 60 Minutes.

Gan weiddi o’i gell, dywedodd: “Dywedwch y gwir wrth y byd… Agorwch y lle. Gadewch i’r byd ddod yma i’w weld. Gadewch i’r byd glywed beth sy’n digwydd.”

Dywedodd bod y carcharorion yn cael eu trin fel anifeiliaid.

Mae Aamer yn un o 164 o garcharorion yn Guantanamo, sydd wedi cael ei garcharu am 11 mlynedd heb gael ei gyhuddo. Mae’n cael ei amau o fod yn un o gydweithwyr Osama bin Laden, ond mae Aamer yn gwadu hynny.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud ei bod am i Aamer gael ei ddychwelyd i’r DU, lle mae ei wraig a’i bedwar o blant yn byw, ond mae’r awdurdodau yn yr UDA wedi bygwth ei anfon yn ôl i Saudi Arabia, lle cafodd ei eni, sy’n groes i’w ddymuniadau.