Mae’n ymddangos fod y Blaid Geidwadol wedi ceisio dileu pob record o areithiau eu plaid oddi ar y rhyngrwyd yn y ddegawd cyn iddyn nhw ddod i bŵer.

Yn ôl adroddiad gan y cylchgrawn Computer Weekly, cafodd record o areithiau a datganiadau y Ceidwadwyr i’r wasg nid yn unig eu dileu oddi ar wefan y blaid, ond oddi ar wefannau chwilio’r we gan gynnwys Google hefyd.

Roedd yr areithiau a’r datganiadau hyn yn dyddio yn ôl i’r flwyddyn 2000, hyd nes etholiad cyffredinol 2010.

Yn ôl yr honiadau, cafodd y recordiau swyddogol eu dileu gan ‘robot blocker’ oddi ar Internet Archive, sefydliad gyda’i bencadlys yn San Francisco sydd yn cadw cofnod cyhoeddus o’r we.

Dywedodd y cylchgrawn eu bod nhw’n cymryd cofnod rheolaidd o gynnwys tudalennau we y blaid, a bod y cofnodion wedi diflannu rhywbryd ar ôl y pumed o Hydref.

Ac yn ôl Computer Weekly, bythefnos ar ôl iddyn nhw ofyn i Internet Archive am esboniad, dechreuodd y cynnwys ailymddangos ar y we.

Cameron wedi pwysleisio tryloywder

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi siarad yn y gorffennol am bwysigrwydd bod yn dryloyw mewn gwleidyddiaeth ac wedi clodfori’r rôl y mae’r rhyngrwyd yn ei chwarae wrth wneud hynny.

Mewn datganiad dywedodd y Blaid Geidwadol: “Rydym yn gwneud yn siŵr fod ein gwefan yn cadw’r Blaid Ceidwadol ar flaen ymgyrchu gwleidyddol. Mae’r newidiadau yma’n gadael i bobl gael mynediad sydyn a hawdd y wybodaeth fwyaf pwysig rydym ni’n ei ddarparu – sut ydym ni’n glanhau llanast economaidd Llafur, cymryd penderfyniadau anodd a sefyll fyny dros bobl sydd yn gweithio’n galed.”

Ond maen nhw wedi cael eu beirniadu’n hallt gan eraill gan gynnwys y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog John Prescott am geisio cuddio’i addewidion o’r gorffennol a’i gwneud hi’n anoddach i bobl weld a ydyn nhw’n gwireddu’i haddewidion gwleidyddol.

Trydarodd Prescott: “Sut mae’r Toris yn atal cael eu cyhuddo o dorri addewidion etholiad? Wrth DDILEU holl areithiau a datganiadau i’r wasg cyn 2010!”