Mae mam i dri o Gaerffili’n dathlu wedi iddi ennill £1 miliwn ar ôl crafu un o gardiau’r Loteri Genedlaethol.

“Mae’n teimlo ychydig yn frawychus ond yn dda iawn – i gyd ar yr un pryd,” meddai Katie Smythe sy’n 24 oed.

Ychwanegodd ei bod hi bron wedi taflu’r cerdyn wedi iddi fethu â sylwi ei bod hi wedi ennill y jacpot.

Mae Katie Smythe nawr yn cynllunio i briodi ei phartner, Nicky Butler, ond nid cyn iddyn nhw a’u teuluoedd gael dathliad Nadolig i’w gofio’n gyntaf.

Bwriad arall yw rhentu eu tŷ teras a phrynu lle newydd yn ogystal â thalu am wyliau i Disneyland gyda’r teulu.

Mae’r cwpl yn byw gyda’u tri o blant sy’n bump, pedwar ac un mlwydd oed yn Hengoed.

Fe brynodd y fam ifanc y cerdyn mewn siop yn Fleur de Lis ger y Coed Duon.

“Fe wnaeth Nicky ofyn i mi ei briodi sbel yn ôl ond doedden ni methu fforddio priodas,” meddai Katie Smythe.

“ Nawr, fe fyddwn ni’n gallu cael priodas fyddwn i ond wedi breuddwydio amdano fel arall.”