Justine Greening
Mae’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, Justine Greening, wedi rhybuddio fod teiffŵn Haiyan wedi gadael miloedd o ferched y Philippines mewn sefyllfa “fregus iawn”.

Dywedodd bod argyfyngau yn y gorffennol wedi codi’r lefelau o drais yn erbyn merched yn sylweddol yn y Philippines, yn benodol drwy herwgipio merched i’w gwerthu.

Cymorth

Daeth rhybudd Greening wrth iddi gyhoeddi cyllid newydd sy’n gobeithio rhoi cymorth i ferched mewn gwledydd sydd mewn argyfwng, ond nid oes cyfran ohono wedi ei ddynodi i’r Philippines.

Mae’r £21.6 miliwn am fod yn rhoi cymorth i ferched yn Syria, Lebanon, Jordan, Pakistan, Ethiopia a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Er nad yw arian o’r cyllid yn mynd draw i’r Philippines, mae’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol wedi mynnu fod asiantaethau yno yn asesu’r sefyllfa.

Dywedodd yn ei haraith yn Nhŷ Lancaster, Llundain:

“Mae rhai merched wedi colli popeth – eu cartrefi, eu ffrindiau a hyd yn oed eu teuluoedd.

“Gall pethau syml fel clôau ar doiledau a golau digonol wneud gwahaniaeth mawr.”