Ysbyty Treforys
Mae technoleg 3D yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf i ail-greu wyneb beiciwr a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn damwain ffordd.
Ar hyn o bryd mae tîm o lawfeddygon yn Ysbyty Treforys, Abertawe wrthi’n paratoi am y llawdriniaeth arloesol a fydd yn adeiladu darn o wyneb newydd i’r dyn gan ddefnyddio rhannau a gynhyrchwyd gan argraffydd 3D.
Bydd y gwaith yn cael ei arwain gan Adrian Sugar, llawfeddyg ymgynghorol ar y genau a’r wyneb yn Ysbyty Treforys , Abertawe.
Mewnblaniadau titaniwm
Fe wnaeth y doctoriaid dynnu delweddau cyfrifiadurol o ochr wyneb y beiciwr oedd heb gael ei effeithio yn y ddamwain i greu drych-ddelwedd a fydd yn galluogi doctoriaid ailadeiladu’r wyneb perffaith.
Bydd y delweddau yn cael eu defnyddio i greu mewnblaniadau titaniwm a fydd yn cael eu cynhyrchu gan argraffydd 3D.
Mae’r gwaith yn cael ei ystyried mor arloesol nes ei fod eisoes wedi ei gynnwys mewn arddangosfa yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain – cyn i’r gwaith ei hun gael ei gwblhau.
Mae’r prosiect yn cael ei wneud ar y cyd rhwng Uned Genol-wynebol Ysbyty Treforys ac adran Dylunio ac Ymchwil Cynnyrch (PDR ) Prifysgol Fetropolitan Caerdydd .