Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi heddiw bod yr economi’n gwella “o’r diwedd” wrth i’r banc uwchraddio ei ragolygon twf ar gyfer 2013 o 1.4 % i 1.6 %.

Mae’r banc yn rhagweld y bydd GDP Prydain yn tyfu 0.9 % yn chwarter olaf y flwyddyn ac mae hefyd wedi codi’r rhagolwg ar gyfer y flwyddyn nesaf o 2.5 % i 2.8 %.

Er bod dim disgwyl i ddiweithdra ddisgyn i 7% cyn diwedd 2016, mae’r siawns ei fod yn cyrraedd y lefel honno yn gynt wedi cynyddu, yn ôl adroddiad chwyddiant chwarterol y Banc.

Cyfraddau llog

Mae Banc Lloegr wedi dweud o’r blaen na fyddan nhw’n codi’r cyfraddau llog o 0.5% nes i ddiweithdra ostwng o dan 7%. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, mae nifer y rhai sy’n ddi-waith yn y DU wedi gostwng 0.2% i 7.6%.

Dywedodd Llywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney, bod chwyddiant isel a swyddi newydd sy’n cael eu creu ar gyfradd o 60,000 y mis yn helpu’r economi i dyfu’n gynt na mae hi wedi gwneud ers chwe blynedd.

Dywedodd Mark Carney: “Am y tro cyntaf ers amser hir, does dim rhaid i chi fod yn rhywun ffyddiog i weld y gwydr yn hanner llawn. Mae’r adferiad wedi gafael o’r diwedd.”

Ond ychwanegodd ei bod hi’n bwysicach nag erioed i gynnal y polisi ariannol sy’n cynnwys rhaglen lleddfu gwerth £375 biliwn i bwmpio arian mewn i’r economi a chynnal y cyfraddau llog ar 0.5%.