Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael gorchymyn i gymryd camau i leihau’r risg i filwyr mewn ymarferion milwrol.
Daw’r cyfarwyddyd wedi i dri o filwyr o’r Fyddin Diriogaethol farw ar ôl ymarferion ar fynydd-dir Bannau Brycheiniog dros yr Haf.
Bu farw’r tri dyn ar ôl cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi ar gyfer mynediad i’r SAS ar fynydd Pen y Fan ar un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.
Mae ymchwiliad Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar y cyd â’r heddlu i amgylchiadau’r marwolaethau yn parhau.
Y gorchymyn
Ond mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi hysbysiad heddiw sy’n gorchymyn y Weinyddiaeth Amddiffyn i gymryd camau i ddelio â’r peryglon posib mewn ymarferion o’r fath i’r rhai sy’n cymryd rhan.
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: “Mae’r rhybudd yn gofyn i’r Weinyddiaeth gymryd camau i ddelio â risgiau sy’n deillio o’i ymarferion milwrol.
“Rydym yn parhau i ymchwilio i’r marwolaethau, gan gefnogi Heddlu Dyfed Powys sy’n arwain yr ymchwiliad.”