Fe fydd y Tardis i’w weld mewn trefi ar hyd a lled Cymru wythnos nesa’ fel rhan o ddathliad pen-blwydd y gyfres Doctor Who yn 50 oed.
Mae’r ddrama deledu yn dathlu ei phen-blwydd ar ddiwedd y mis, ond wythnos nesaf, bydd bocs ffôn enwog y Doctor yn ymddangos dros nos mewn lleoliadau cyfrinachol mewn wyth o drefi a dinasoedd dros Gymru.
Meddai Brian Minchin, Uwch Gynhyrchydd Doctor Who: “Dyma gyfle unigryw i wylwyr Doctor Who ar draws Cymru ddod wyneb yn wyneb â’r TARDIS a bod yn rhan o’r dathliadau’r pen-blwydd. Peidiwch â’i fethu yn eich ardal chi.”
Bydd yr union leoliadau yn cael ei gyhoeddi ar Twitter y diwrnod y bydd y Tardis yn ymddangos yn yr ardaloedd canlynol:
Dydd Sadwrn 16 Tachwedd – Caergybi
Dydd Sul 17 Tachwedd – Llandudno
Dydd Llun 18 Tachwedd – Wrecsam
Dydd Mawrth 19 Tachwedd – Aberystwyth
Dydd Mercher 20 Tachwedd – Tyddewi
Dydd Iau 21 Tachwedd – Abertawe
Dydd Gwener 22 Tachwedd – Casnewydd
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd – Caerdydd
Bydd y daith yn dod i ben ar y diwrnod y bydd rhaglen ben-blwydd arbennig yn cael ei dangos ar Dachwedd 23 o’r enw The Day Of The Doctor gyda’r doctor presennol, Matt Smith, a’r cyn-ddoctor, David Tennant.