Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n cynnal 15 o ddigwyddiadau dros y byd i hybu cynnyrch cwmnïau o Gymru.

Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog dros yr Economi, Edwina Hart, wrth iddi ymweld â digwyddiad Diwrnod Masnach Ryngwladol Cymru heddiw.

Bydd y digwyddiadau, sydd i’w cynnal rhwng misoedd Chwefror a Thachwedd y flwyddyn nesaf, yn cael eu cynnal mewn 13 o wledydd gwahanol yn Ewrop, Gogledd America, Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol.

Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Edwina Hart: “Rydym yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu masnach ryngwladol. Y chwarter hwn, mae gwerth allforion o Gymru ar ei lefel uchaf ers 2011.

‘Adeiladu ar y llwyddiant’

“Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy ddarparu cymorth i fusnesau yng Nghymru ym mhob cam o’u hymdrechion i gynyddu allforion.

“Mae hyn yn cynnwys rhaglen gynhwysfawr o deithiau masnach tramor ac arddangosfeydd, fel y rhai yr wyf wedi’u cyhoeddi heddiw, a digwyddiadau fel Diwrnod Masnach Ryngwladol Cymru lle gall busnesau gael cyngor a chael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael iddynt.”

Diwrnod Masnach Ryngwladol Cymru

Bydd dros 130 o gwmnïau yn cymryd rhan yn Niwrnod Masnach Ryngwladol Cymru fel rhan o Wythnos Allforio Prydain heddiw.

Mae’r digwyddiad yn cynnwys arddangosfeydd, gweithdai datblygu masnach a thrafodaethau i helpu busnesau bach a chanolig, sy’n seiliedig yng Nghymru, sydd naill ai’n allforio’n barod neu’n edrych i fasnachu rhyngwladol.