Lily Allen
Mae Lily Allen wedi dychwelyd i fyd cerddoriaeth gyda fideo sy’n dychanu’r defnydd o fenywod fel gwrthrychau rhyw yn y diwydiant cerddoriaeth.
Dyma’r gân gyntaf i Lily Allen, 28, ei ryddhau ers iddi gymryd cam yn ôl o’r diwydiant yn 2009 i eni dwy o ferched, dechrau label ffasiwn a sefydlu label recordio.
Mae’r fideo i’r gân, ‘Hard Out Here’, a gafodd ei ryddhau ar YouTube yn ei dangos yn perfformio gyda dawnswyr hanner noeth sy’n twercio. Mae twercio yn fath o ddawns awgrymog ble mae’r dawnsiwr, sydd fel arfer yn ferch, yn plygu drosodd ag ysgwyd ei chluniau i fyny ac i lawr gan achosi’r pen-ôl i grynu fel jeli.
Bwyta banana
Mewn rhan arall o’r fideo, mae hi’n bwyta banana’n awgrymog i ddychanu’r ffordd mae merched yn cael eu trin mewn fideos cerddoriaeth.
Roedd pobl yn gallu dod o hyd i’r gân ar ôl darganfod atebion i gliwiau wnaeth Lily Allen bostio ar wefan Twitter, gyda phob ateb yn cyfateb i enw dynes adnabyddus.
Mae’r fideo wedi cael ei ryddhau yng nghanol pryderon cynyddol am y portread o fenywod mewn fideos cerddoriaeth. Yn ddiweddar, fe wnaeth y gantores Annie Lennox alw am atal plant rhag cael gweld rhai fideos cerddoriaeth oherwydd y delweddau rhywiol niferus.
A bu i Miley Cyrus achosi cynnwrf pan ymddangosodd yn noeth mewn fideo ar gyfer un o’i chaneuon.