Mae’r PRS wedi dyblu eu taliadau i gyfansoddwyr am chwarae eu caneuon ar Radio Cymru.
Ers mis Hydref mae’r corff rhannu breindal wedi bod yn talu 98 ceiniog y funud am chwarae cân ar yr orsaf Gymraeg – 52 ceiniog oedd y raddfa yng Ngorffennaf.
Mewn datganiad i golwg360 y prynhawn yma fe ddywedodd y PRS:
“Mae yna lai o aelodau PRS sydd yn rhannu yn ein refeniw trwydded Radio Cymru, sy’n golygu bod cynnydd yn y raddfa y funud. Gallwn gadarnhau felly bod y raddfa ar gyfer BBC Radio Cymru erbyn hyn yn £0.98 y funud.”
Ers 2007 bu protestio brwd wedi i’r PRS – y Performing Rights Society – gwtogi taliadau i gerddorion Cymraeg gan bron i 90%.
Mi adawodd dros 200 o gyfansoddwyr Cymraeg y PRS, gan fynd ati i ffurfio corff casglu breindal newydd o’r enw Eos.
Felly mae’r gyfradd wedi codi fis diwetha’ oherwydd i nifer o gerddorion adael y PRS ag ymuno gydag Eos.
Cwtogi eto?
Yn ôl un ffynhonnell mae’n bosib y bydd y PRS yn lleihau’r gyfradd eto yn y dyfodol i adlewyrchu maint cynulleidfa Radio Cymru.
Wrth gwtogi’r gyfradd yn 2007, roedd y PRS wedi dadlau bod angen talu yn ôl y nifer yn gwrando ar orsafoedd radio.
Ond gyda’r graddfeydd newydd mae cyfansoddwr yn cael mwy am chwarae cân ar Radio Cymru (98 ceiniog) nag ar Radio Wales (76 ceiniog), er bod cynulleidfa Radio Wales tua tair gwaith maint un Radio Cymru.
£1.60 y funud i aelodau Eos
Mae aelodau Eos yn derbyn £1.60 y funud ‘dros dro’ am chwarae caneuon ar Radio Cymru, ac yn dilyn tribwnlys diweddar mae disgwyl dyfarniad ar gyfradd barhaol fis nesa’.