Mae llun gan Francis Bacon wedi torri’r record am y darn o gelf drytaf i’w werthu mewn ocsiwn ar ôl cael ei brynu am $142m (£89m) yn Efrog Newydd.

Cafodd ‘Three Studies of Lucian Freud’ ei ddarlunio ym 1969, ac mae’n cael ei weld fel un o ddarnau gorau Bacon.

Gwerthodd y llun ar ôl chwe munud o gynnigion ffyrnig yn nhŷ ociswn Christie’s.

Mae’r llun yn torri’r record blaenorol o $119.9m (£74m) a dalwyd am lun ‘The Scream’ gan Edvard Munch llynedd.