Yr Athro Stephen Hawking
Mae’r Athro Stephen Hawking wedi cyfadde’ ei fod wedi ei siomi pan gyhoeddodd gwyddonwyr iddyn nhw ddod o hyd i’r Higgs boson (neu’r ‘God particle’).

Mewn araith y mae’n ei rhoi yn Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain heddiw, meddai: “Fe fyddai Ffiseg yn faes llawer mwy diddorol pe na bai’r gronyn wedi’i ddarganfod.”

Ond roedd gan Stephen Hawking hefyd reswm mwy personol tros bitïo’r darganfyddiad a enillodd Wobr Ffiseg Nobel i’r gwyddonydd Prydeinig, Peter Higgs.

“Roeddwn i wedi taro bet gyda Gordon Kane o Brifysgol Michigan, ac ro’n i’n mynnu na fyddai’r gronyn fyth yn cael ei ddarganfod,” meddai. “Mae’r Wobr Nobel wedi costio $100 i mi.”

Stephen Hawking oedd y siaradwr gwadd yn lawnsiad yr arddangosfa newyddd yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain o’r enw ‘Collider’ – arddangosfa sy’n rhoi golwg tu ôl i’r llennni ar y gwaith sy’n cael ei gwneud yn labordy genynnau CERN yng Ngenefa, y Swistir.