Gallai manylion cardiau credyd cymaint â hanner miliwn o bobol yn Ewrop fod wedi eu dwyn gan hacwyr cyfrifiaduron.

Mae ymchwilwyr twyll a throseddau’r we yn Iwerddon yn ymchwilio ar ôl i gyfrifiaduron pencadlys cwmni Loyaltybuild gael e hacio.

Yn ôl Loyaltybuild, sy’n dal manylion ar gyfer cwmnïau ar hyd a lled Ewrop, roedd wedi cael ei dargedu gan hacwyr soffistigedig iawn. Mae’r drosedd yn effeithio llawer iawn mwy na’r 70,000 o gwsmeriaid archfarchnadoedd yn Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Mae canolfan ddata’r cwmni wedi’i lleoli yn Ennis, County Clare, lle mae’n prosesu gwybodaeth ar ei holl gleientiaid.