Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi yn y Senedd heddiw y bydd canolfan newydd yn cael ei datblygu yn y gogledd er mwyn trin babanod sydd angen gofal arbennig.

Ond, fe rybuddiodd yr Aelodau Cynulliad yn y Siambr ym Mae Caerdydd y byddai’r mwyafrif o fabanod sâl yn parhau i gael eu hanfon i Arrowe Park, Lerpwl.

“Fe fyddwn ni angen manylion yr holl gostau, manylion poblogaeth, a’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael, cyn y gallwn ni gyhoeddi ymhle y bydd y ganolfan newydd hon,” meddai Carwyn Jones.

Mae wedi gwrthod hefyd argymhelliad adroddiad annibynnol sy’n dweud y dylai pob babi bach sydd angen gofal arbennig, yn derbyn gofal yng ngogledd Cymru.