Mae Cymdeithas yr iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ddefnyddio cwmni o Loegr i gynhyrchu arwyddion ar gyfer gwestai yng Nghymru.
Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn annog busnesau sy’n rhan o’u cynlluniau graddio seren i brynu arwyddion oddi wrth gwmni Alpen Signs Ltd. yng Nghaerlŷr.
Mae’r wybodaeth am arwyddion sêr y cynllun yn dweud “gwnewch y gorau o’ch sêr gyda’r dewis eang a chost-effeithiol o arwyddion sydd ar gael i chi eu prynu oddi wrth Alpen Signs Cyf.”
Dim synnwyr
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar: “Dyw hi ddim yn gwneud dim synnwyr i’r Llywodraeth i roi gwaith fel hwn i gwmnïau tu allan i Gymru.
“Dylen ni gadw mewn cof effaith economaidd swyddi yn ein cymunedau. Mae’n enghraifft arall o’r diffygion lu ym mholisi caffael y Llywodraeth.
“Camgymeriad yw’r meddylfryd y gellid bodloni amodau iaith yn iawn trwy ddarparwr tu allan i Gymru, mae’n rhaid cofio effaith ddarparu swyddi a chadw arian yn ein cymunedau lleol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae contract Croeso Cymru yn rhan o gontract mwy o faint a gafodd ei osod drwy broses dendro OJEU Visit Britain,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth wrth golwg360.
“Daw’r contract i ben ym mis Mawrth 2015 ac fe fydd yna broses dendro agored yn cael ei chynnal.”