Brechu rhag y frech goch
Mae arbenigwr iechyd wedi cyhoeddi heddiw mai o wersyll gwyliau yn Lloegr y daeth yr achos cyntaf o’r Frech Goch ym mis Tachwedd 2012.
Ar ôl i bedwar o blant ymweld â’r gwersyll ac yna dychwelyd i Gymru, fe wnaeth yr haint ledaenu i effeithio ar 1,200 o bobol ac achosi marwolaeth Gareth Colfer-Williams o Abertawe a oedd yn dad i blentyn.
Mae’r adroddiad wedi ei ffurfio ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg Abertawe (ABMU), Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Dysgu Powys.
Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi fel y mae 36 o achosion eraill o’r Frech Goch wedi eu cofnodi yn ne Cymru.
Brechlyn MMR
Mae’r adroddiad yn dweud mai nifer isel o bobol yn cael y brechlyn MMR oedd y prif reswm i’r haint ledaenu a chreu’r epidemig gwaethaf a fu yng Nghymru erioed.
Roedd angen i 50,887 o bobol ifanc rhwng 10-18 oed dderbyn y brechlyn ond dim ond 21,493 a’i cafodd.
Mae hefyd yn datgan fod yr epidemig, a gymrodd wyth mis i ddiflannu, wedi digwydd mewn pedwar achos gwahanol yng Nghymru ar yr un pryd.
Annog
Dywedodd Dr Sara Hayes, cyfarwyddwr Bwrdd Iechyd ABMU:
“Rwy’n annog pobol ifanc sydd ddim wedi cael y brechlyn i gysylltu â’i doctoriaid. Dyw hi byth yn rhy hwyr.”
Mae 13 o argymhellion wedi ei gwneud gan yr arbenigwyr iechyd er mwyn ceisio atal epidemig arall ddigwydd yn y dyfodol.
Un o’r rhain yw i gynnal sesiynau brechu o fewn dau ddiwrnod i glywed am achosion posib.