Y diweddar Arwyn Evans, chwith, rhes flaen, yn canu gyda Pharti Cut Lloi (llun oddi ar wefan YouTube)
Bu farw Arwyn Evans – neu Arwyn Tyisa, Llanfair Caereinion – cyn-arweinydd Aelwyd Penllys, gwladwr diwylliedig ac aelod o Barti Cut Lloi.
Roedd wedi’i anrhydeddu gyda gwisg las Gorsedd y Beirdd ym mhrifwyl Sir Ddinbych ddechrau Awst eleni, ac roedd yn aelod amlwg a brwd o Orsedd ei sir ei hun ym Mhowys.
Wrth gael ei gyflwyno i’r Archdderwydd Christine yn Ninbych, fe gafodd Arwyn Evans ei ddisgrifio gan y Cofiadur fel “un mawr ei gyfraniad i lu o gymdeithasau yn ei fro, ac aelod eiconig o Gwmni Theatr Maldwyn”, yn ogystal â bod yn “asgwrn cefn Côr Meibion Llanfair Caereinion”.
Roedd hefyd yn gyn-enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes, medal er anrhydedd gan Eisteddfod yr Urdd i nodi cyfraniad a gwaith gwirfoddol gyda phobol ifanc.
Bu farw brynhawn Llun, Tachwedd 11.