Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae’r dyn wnaeth ddianc o fosg yn Llundain trwy wisgo Burka yn honni fod adrannau o lywodraeth San Steffan wedi amharu ar ei hawliau dynol trwy gyd-weithio er mwyn i awdurdodau Somaliland ei gadw dan glo a’i boenydio ddwy flynedd yn ôl.

Mae Mohammed Ahmed Mohamed yn cael ei amau o fod yn derfysgwr ac i fod dan wyliadwriaeth o dan y Mesur Gwahardd Terfysgaeth ac Ymchiliad ond fe wnaeth ddianc o fosg yn Llundain dydd Gwener trwy wisgo burka.

Mae’r awdurdodau yn honni ei fod wedi cael ei hyfforddi ac wedi ymladd dramor ar ran Al-Shabaab yn Somailia – mudiad sydd gan gysylltiadau efo al-Qaida.

Chwilio

Mae swyddogion gwrth derfysgaeth heddlu’r Met, MI5 a Llu Ffiniau’r DU yn chwilio amdano.

Cafodd ei enw ei gyhoeddi yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw am ei fod wedi dianc, ond mae yn dod â’r achos yn erbyn y Swyddfa Dramor, Y Swyddfa Gartref , y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Twrnai Cyffredinol ar y cyd efo dyn arall sydd yn cael ei alw yn “MA” yn nogfennau’r llys.

Cyhoeddwyd ei enw wrth i Mr Ustus Irwin gyhoeddi dyfarniad dros dro yn gwrthod honniadau eu bod wedi diodde oherwydd cam-ddefnydd o’r drefn gan ddweud hefyd eu bod ill dau yn ymwneud â therfysgaeth.