Nigel England, perchennog Siteserv
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau wrth Golwg360 fod diffoddwyr tân yn dal ar y safle yn ffatri ailgylchu Siteserv yn Llandŵ bron i ddeuddydd ar ôl i’r tân gynnau yno.
Mae’r tân bellach dan reolaeth ond yn debygol o losgi am o leiaf ddiwrnod arall yn ôl y gwasanaeth.
Mae oddeutu 20 o ddiffoddwyr dal yn taclo’r tân y bore yma, ddechreuodd ar stâd ddiwydiannol nos Fawrth am 7.20yh.
Dim pryderon asbestos
Mae pryderon fod asbestos yn yr adeilad yn beryg i iechyd pobl yn ddi-sail, yn ôl datganiad a gyhoeddwyd neithiwr ar y cyd gan y gwasanaeth tân, Cyngor Bro Morgannwg, Gwasanaeth yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ôl y datganiad, mae oddeutu 1,000 tunnell o wastraff cartref di-wenwynig i gael ar safle’r tân, ond er bod ychydig o asbestos yn nho’r adeilad mae to hwnnw’n parhau i sefyll ac felly dyw’r tân ddim wedi effeithio ar yr asbestos.
Mae pobl yn yr ardal gyfagos hefyd wedi cael rhybydd i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau, gan fod mwg a gronynnau llwch mân yn yr awyr a bod adroddiadau o arogl chwerw yn yr ardal.
Bydd safon yr aer a’r dŵr yn cael ei asesu i weld a oes unrhyw effaith posib ar iechyd a’r amgylchedd lleol.
Ymchwilio i achos y tân
Dywedodd y gwasanaeth eu bod nhw’n dal i fod yn ymchwilio i achos y tân, a ddechreuodd mewn safle trosglwyddo gwastraff, a’u bod yn cyd-weithio gyda Heddlu De Cymru ar y mater.
Cafodd Siteserv, sy’n cyflogi oddeutu 200 o bobl, ei sefydlu dros 16 mlynedd yn ôl gan y brodyr Nigel a Philip England.
Yn gynharach eleni fe gafwyd y ddau yn ddieuog o ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar dir fferm ym Mro Morgannwg sydd yn eiddo i Nigel England.