Fe fethodd cwmni Vodafone ymestyn eu gwasanaeth ffôn symudol i 90% o boblogaeth y DU erbyn diwedd Mehefin eleni – a hynny er bod EE, Three a O2 wedi llwyddo i wneud hynny yn ôl Ofcom.

Roedd y rhwydweithiau i fod i ddarparu gwasanaeth i 80% o’r boblogaeth ar ôl i drwyddedau 3G gael eu dyfarnu yn 2000.

Fe godwyd y targed i 90% yn ddiweddarach.

Yn ôl Vodafone mae gan y cwmni gynllun i godi mwy o fastiau nag sy’n ofynnol erbyn diwedd y flwyddyn a dyma paham mae Ofcom wedi penderfynu pedio ei gosbi am y tro gan gadw llygad ar y sefyllfa ac asesu’r cyfan ym mis Ionawr.

Dywed Ofcom eu bod yn awyddus iawn i weld gwasanaeth y cwmniau ffôn symudol yn gwella gan ymestyn gwasanaeth 4G i ardaloedd dan do ble mae 98% o’r boblogaeth yn byw ac i ardaloedd awyr agored ble mae dros 99% o’r boblogaeth yn byw erbyn 2017 fan bellaf.