Mae rhieni bellach yn gwario mwy ar gostau prifysgol na phriodasau eu plant yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl ymchwil gan gwmni Standard Life, dywedodd dau o bob pump (40%) o rieni eu bod nhw wedi cyfrannu tuag at gostau prifysgol eu plant, tra mai dim ond 21% oedd wedi cyfrannu tuag at briodas.
Mae hyn yn wahanol iawn i brofiad y genhedlaeth hŷn, gyda 41% o neiniau a theidiau yn dweud eu bod nhw wedi cyfrannu ar gostau priodas eu plant, tra mai dim ond 25% wnaeth gyfrannu tuag at eu haddysg.
Newidiadau cymdeithasol i’w wneud â phriodi, yn ogystal a’r nifer uwch sydd yn mynd i’r brifysgol y dyddiau yma, a’r gost gynyddol o wneud hynny sydd yn gyfrifol am y newid yma medd Standard Life.
Costau eraill
Dywedodd 19% o rieni hefyd eu bod nhw wedi helpu’i plant gyda dyledion cardiau credyd neu benthyciadau personol, o’i gymharu â 28% o neiniau a theidiau a ddywedodd eu bod nhw wedi gwneud hynny wrth fagu’i plant.
Roedd 14% o neiniau a theidiau hefyd yn cyfrannu tuag at gostau addysg eu wyrion a wyresau, gyda 15% yn cyfrannu at gost eu car cyntaf.
Roedd yr adroddiad Family Financial Tree wedi holi dros 4,000 o bobl, ac wedi awgrymu bod yna ddiffyg trafod yn aml rhwng cenedlaethau ynglŷn a dyfodol ariannol.
Roedd bron i dri allan o bump (59%) o neiniau a theidiau wedi ysgrifennu ewyllys ar gyfer eu plant, ond roedd llai na hanner (45%) wedi trafod yr etifeddiaeth hynny.
Dywedodd 35% o rieni a 43% o neiniau a theidiau na fydden nhw’n gofyn am gyngor ariannol gan unrhyw un o’u teulu, tra bod 22% yn trafod arian dim ond pan oedd problem yn codi neu benderfyniadau pwysig angen eu gwneud.
“Hyd yn oed gyda chymaint o bobl yn y teulu’n derbyn cyflog, mae’n ymddangos fod yna rwystr pan mae’n dod i drafod rhai materion ariannol,” meddai Julie Hutchinson o Standard Life.
“Ond os oes rhai o’r trafodaethau anodd yn digwydd, er enghraifft ar bethau fel etifeddiaeth ac ymddeoliad, maen nhw’n medru cael gwared â’r ansicrwydd a’i gwneud hi’n haws i bawb yn y teulu gynllunio i’r dyfodol a gwneud y mwyaf o’u harian trwy drafod,” ychwanegodd.