Adeilad MI5
Bydd tri phrif sefydliad ysbio’r wladwriaeth Brydeinig yn cael eu galw o flaen pwyllgor o Aelodau Seneddol heddiw i ateb cwestiynau yn gyhoeddus am eu gweithredoedd.

Mae’r gwrandawiad yn dod ynghanol yr helynt tros weithgareddau’r gwasanaethau cudd ar ddwy ochr Môr Iwerydd yn casglu gwybodaeth am gysylltiadau electronig pobol gyffredin a gwleidyddion.

Am y tro cyntaf erioed bydd penaethiaid y Gwasanaeth Gwybodaeth Gudd, MI6, y Gwasanaeth Diogelwch, MI5, a’r asiantaeth clustfeinio electronig GCHQ yn dod at ei gilydd i roi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Diogelwch a Gwybodaeth yn San Steffab.

Bydd yn rhaid i bennaeth MI6, Sir John Sawers, cyfarwyddwr cyffredinol MI5 Andrew Parker, a chyfarwyddwr GCHQ Sir Iain Lobban, ateb cwestiynau am waith eu sefydliadau nhw i’r pwyllgor – ac fe fydd y sesiwn yn cael ei ddarlledu.

Dilyn datgeliadau Snowden

Fe gododd y dadlau diweddara’ tros y gwasanaethau cudd yn dilyn datgeliadau cyn-weithiwr cudd-wybodaeth yr UDA, Edward Snowden.

Fe ryddhaodd Snowden wybodaeth rai misoedd yn ôl ynglŷn â gweithgareddau ysbio GCHQ a’r Asiantaeth Diogelwch Gwladol (NSA) yn yr Unol Daleithiau.

Roedd dogfennau Snowden yn dangos fod yr asiantaethau gwybodaeth yma wedi llwyddo i gael mynediad i gyfathrebiadau we miliynau o bobl gyffredin drwy raglen Tempora GCHQ, tra bod yr NSA wedi clustfeinio ar alwadau ffôn nifer o arweinwyr blaenllaw’r byd.

Mae Snowden yn dal i gael lloches ym Moscow yn Rwsia ar hyn o bryd tra bod yr Unol Daleithiau’n ceisio ei erlyn am ryddhau’r dogfennau cyfrinachol.

Dychryn ymgyrchwyr

Mae datgeliadau Snowden wedi dychryn ymgyrchwyr rhyddid sifil a chreu tensiynau rhwng cynghreiriaid ar draws y byd.

Ond mae gweinidogion y Llywodraeth wedi rhybuddio fod datgelu dulliau’r asiantaethau’n peryglu diogelwch y wlad, gyda phennaeth MI5 Andrew Parker yn eu disgrifio fel “anrheg” i derfysgwyr.

Bydd y pwyllgor yn cwestiynu penaethiaid yr asiantaethau ynglŷn â’r clustfeinio ar wybodaeth, yn ogystal â’r bygythiad parhaol o ymosodiadau terfysgol yn y Deyrnas Unedig.