Philip Hammond - bygwth?
Refferendwm annibyniaeth yr Alban oedd yn gyfrifol am gau iard longau yn ne Lloegr ac achub rhai yn Glasgow, meddai gwleidyddion Seisnig.

Ac mae Llywodraeth Prydain wedi rhybuddio na fydd yr iardiau yn yr Alban yn cael cytundeb milwrol mawr, os na fyddan nhw’n rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ddoe fe gyhoeddodd cwmni BAE Systems eu bod nhw’n cau eu iard yn Portsmouth ond yn achub rhai yn Glasgow.

Er y bydd tuag 800 o swyddi’n cale eu colli yno, fe fydd bron 1,000 yn mynd yn ne Lloegr a’r gwaith o adeiladu llongau’n dod i ben yn Portsmouth ar ôl 500 mlynedd.

ASau’n condemnio

Mae ASau Portsmouth wedi condemnio’r penderfyniad gan ddweud mai gwleidyddiaeth oedd y tu cefn i’r penderfyniad.

Un o’r penderfyniadau allweddol nesa’ fydd gosod cytundeb i adeiladu llongau rhyfel newydd – yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Philip Hammond, fe fydd rhaid i’r rheiny gael eu hadeiladu yn  y Dayrnas Unedig.

Mae hynny wedi cale ei weld yn fygythiad i rwystro pobol yr Alban rhag pleidleisio tros annibyniaeth.