Llun o wefan y Gymdeithas Alzheimer
Mae siarad mwy nag un iaith yn medru oedi dryswch meddwl, yn ôl ymchwil newydd.
Mae pobl ddwyieithog sydd yn datblygu’r cyflwr yn tueddu i wneud hynny bum mlynedd yn hwyrach na’r rheiny sydd yn siarad un iaith, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caeredin a Sefydliad Gwyddorau Meddygol Nizam yn India.
Wrth edrych ar pryd y dechreuodd dryswch mewn 650 o bobol, fe wnaethon nhw ddarganfod bod pobol ddwyieithog yn hwyrach yn cael clefyd Alzheimer a gwahanol fathau o dementia a bod yr effaith yn fwy nag effaith unrhyw gyffur sydd ar gael ar hyn o bryd.
Ymarfer yr ymennydd
Gall symud rhwng synau, geiriau a strwythurau gramadeg gwahanol fod yn ffordd naturiol o ymarfer yr ymennydd, meddai’r adroddiad – y diweddara’ i weld cyslltiad rhwng dwyieithrwydd a chryfder meddwl.
Ond mae’r ymchwilwyr yn cydnabod bod angen mwy o ymchwil er mwyn cadarnhau bod y casgliadau’n gywir.
Gwell na chyffur
“Mae’r canfyddiadau yma’n awgrymu fod gan ddwyieithrwydd fwy o effaith ar ddementia nag unrhyw gyffur sydd ar gael ar hyn o bryd,” meddai Thomas Bak o Ysgol Athroniaeth, Seicoleg a Gwyddorau Iaith Prifysgol Caeredin.
“Mae hyn yn gwneud yr astudiaeth o’r berthynas rhwng dwyieithrwydd a gwybyddiaeth yn un o’n prif flaenoriaethau.”
Cafodd yr effaith yma ei weld hyd yn oed mewn cleifion oedd erioed wedi mynychu’r ysgol ac oedd yn methu darllen, gan awgrymu nad addysg ffurfiol oedd yr esboniad.
Mae’r astudiaeth, sydd yn cael ei chyhoeddi yn y cylchgrawn meddygol Neurology, yn un o’r mwyaf erioed i edrych ar effaith dwyieithrwydd ar ddementia, ar wahân i ffactorau eraill megis addysg, rhyw a swyddi.