Iawn, rhy drwm, rhy dew
Mae mwy na saith o bob deg dyn 42 oed yng Nghymru yn rhy dew, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Llundain.
Mae hynny’n waeth na merched Cymru ac yn uwch na’r ffigurau ar draws gwledydd Prydain.
- Yn ôl yr ymchwil sydd wedi dilyn un genhedlaeth oddi ar 1970, mae 46% o’r dynion 42 oed yn rhy drwm a 26% arall yn dew iawn.
- Y ffigyrau ar gyfer menywod Cymru yw 30% a 27%.
Mae’r astudiaeth gan Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain yn dangos mai’r ffigwr ar gyfer dynion trwy wledydd Prydain yw 68% a 49% ar gyfer menywod.
Dynion yn gwadu
Mae’r ymchwil hefyd yn dangos fod dynion yn llawer llai tebygol o gydnabod problemau gyda’u pwysau ac yn llawer mwy tebygol o esgus nad ydyn nhw mor dew ag y maen nhw mewn gwirionedd.
Roedd 30% o’r dynion rhy drwm yn credu’i bod nhw tua’r pwysau iawn, tra mai dim ond 9% o ferched rhy drwm oedd yn teimlo’r un peth.
Roedd hanner y dynion rhy drwm yn credu mai dim ond ychydig tros bwysau oedden nhw, o’i gymharu â chwarter o ferched tebyg.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod llai o ddynion na merched yn gweithredu i drio gostwng eu pwysau.
Peryglon iechyd
Roedd yr ymchwil, a gafodd ei arwain gan yr Athro Alice Sullivan a Matt Brown, yn dilyn astudiaethau cynharach sydd wedi dilyn bron i 10,000 o ferched a dynion a gafodd eu geni yn 1970.
Dangosodd eu hymchwil hefyd fod dynion a merched a gafodd eu geni yn 1970 yn llawer mwy tebygol o fod yn rhy de na phobol a gafodd eu geni yn 1958 pan oedden nhw’r un oed.
“Mae pobol sy’n rhy drwm neu’n dew iawn yn wynebu risg llawer uwch o broblemau iechyd, can cynnwys afiechyd y galon a’r gwythiennau, clefyd melys a rhai canserau,” meddai’r Athro Sullivan.
“Ond mae cario pwysau ychwanegol yn fwy cymdeithasol dderbyniol i ddynion na merched, a dyw dynion ddim yn ymateb i negeseuon iechyd am bwysau a gordewdra os nad ydyn nhw’n cydnabod eu bod nhw’n ordrwm.”
“Mae hyn yn destun pryder mawr gan mai afiechyd cardiofasgwlaidd yw prif achos marwolaeth ymysg dynion dros 35 oed.”