'Sefyllfa wirion' meddai Aled Roberts
Doedd arolwg am ddefnydd y Gymraeg gan fusnesau yng Nghymru ddim ar gael yn Gymraeg, meddai Aelod Cynulliad.

Fe fu rhaid i un wraig fusnes ofyn deirgwaith cyn gallu ateb holiadur trwy gyfrwng yr iaith, meddai Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol yng ngogledd Cymru.

Y broblem, meddai, oedd fod cwmni o Lundain wedi cael y cytundeb i gynnal yr arolwg, meddai Aled Roberts ar ôl codi’r mater yn y Cynulliad ddoe.

‘Sefyllfa wirion’

“Mae’r sefyllfa hon yn wirion pan nad yw arolwg i ddefnydd o’r Gymraeg gan fusnesau ddim ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg o’r dechrau,” meddai Aled Roberts.

“Mae’n dangos y gwir am awgrym fod y Llywodraeth Lafur bresennol yn delio’n gyfartal gyda’r ddwy iaith.”

Mae’n dweud ei fod yn aros i gael ateb gan y Llywodraeth.

Roedd datganiad Aled Roberts am ei gwyn yn uniaith Saesneg a dywedodd Mr Roberts ar ei gyfrif Trydar y mrynhawn yma pam nad oedd y datganiad yn ddwyieithog.

“Yn anffodus am fod yr aelod staff yn ddi-Gymraeg ac wedi gyrru’r datganiad i’w gyfieithu ers ddoe.”