Jane Hutt
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n cau 10 o’i swyddfeydd ar draws Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesa’.

Y nod yw arbed arian o ran cost y swyddfeydd eu hunain a gwneud adeiladau’r Llywodraeth yn fwy effeithiol o ran arbed ynni.

Yn ôl y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y nod yw torri 30% ar lefelau’r carbon diocsid y mae’r adeiladau yn ei ollwng i’r awyr.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cau chwech swyddfa, gan ddod â’r cyfanswm trwy Gymru i 35 ond yn nod yw cyrraedd 25 cyn diwedd 2015.

‘Llwyddo’

Yn ei hadroddiad blynyddol ar ystad y Llywodraeth, mae Jane Hutt yn dweud eu bod yn llwyddo i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol ond fod angen i’r gwaith barhau.

Yn y cyfamser, mae’r BBC’n honni mai dim ond gwerth £5 y mis o drydan sydd wedi bod yn cael ei gynhyrchu gan un felin wynt ar adeilad y Llywodraeth yn Aberystwyth.

Yn ôl y Llywodraeth, problemau technegol sy’n gyfrifol am hynn.