Iain Duncan Smith - ei arch-gynllun
Mae prif gynllun Llywodraeth Prydain i newid budd-daliadau wedi cael ei reoli yn “ddychrynllyd o wan” yn ôl pwyllgor o aelodau seneddol.
Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan, roedd yna gyfres o “fethiannau ofnadwy” wedi bod wrth geisio cyflwyno’r Credyd Cyffredinol – yr un budd-dal sydd i fod i ddisodli nifer o daliadau llai.
Dyma arch-gynllun yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, i ddiwygio’r wladwriaeth les ac mae i fod i gael ei gyflwyno yn Sir y Fflint yn gynnar y flwyddyn nesa’.
Y methiannau
- Mae adroddiad y Pwyllgor yn dweud bod o leia’ £140 miliwn wedi ei wastraffu eisoes, ac fe allai’r swm fod yn llawer mwy.
- Roedd cynorthwywyr personol wedi cael y gwaith o gymeradwyo archebion gwerth mwy nag £20 miliwn ac roedd nifer o brosiectau cyfrifiadurol wedi methu.
- Dyw cynllun peilot sydd ar droed yn Llundain ddim yn brawf go iawn ar y cynllun, medden nhw, ac mae angen dechrau cynllun prawf arall.
- Mae’r Pwyllgor yn amau a fydd y budd-dal yn ei le erbyn y dyddiad targed yn 2017 ac maen nhw’n dweud ei bod yn bwysicach bellach i wneud y peth yn iawn, yn hytrach na brysio.
Sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor
“Mae’r methiant i ddatblygu cynllun cynhwysfawr wedi arwain at lawer o oedi a gwastraff o swm o arian cyhoeddus nad ydyn ni’n siŵr o’i faint eto,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Margaret Hodge.
“Mae £425 miliwn wedi ei wario hyd yn hyn ar y rhaglen. Mae’n debygol fod llawer o hynny, gan gynnwys gwerth o leia’ £140 miliwn o asedau technoleg gwybodaeth, am orfod cael ei anghofio.
“Mae rheolaeth y cynllun wedi bod yn ddychrynllyd o wan.”
Ateb y Llywodraeth
Gwadu’r honiadau y mae’r Llywodraeth, gyda’r Adran Bensiynau a Gwaith yn dweud y bydd y cynllun yn y pen draw’n arbed £38 biliwn.
Doedd adroddiad y Pwyllgor ddim yn ystyried bod pobol newydd yn arwain y cynllun erbyn hyn, medden nhw, a bod llawer o newidiadau eisoes wedi eu gwneud.
Ynghynt yr wythnos hon, roedd yr elusen Cyngor ar Bopeth wedi rhybuddio nad yw pobol yn barod am y budd-dal newydd.