Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi croesawu Llysgennad yr Unol Daleithiau i Brydain, Matthew Barzun, i Gymru i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi pellach rhwng y ddwy wlad.
Daw’r cyfarfod yn dilyn taith fasnach Carwyn Jones i San Francisco ym mis Ionawr, lle fu’r Prif Weinidog yn cynrychioli cwmnïau o Gymru ac yn cyfarfod â busnesau ac arweinwyr gwleidyddol.
Yn Carwyn Jones, yr Unol Daleithiau yw’r wlad sy’n buddsoddi fwyaf yng Nghymru ac mae angen meithrin y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad:
“Yr Unol Daleithiau yw grym economaidd pennaf y byd o hyd ac mae meithrin cysylltiadau cryf gyda busnesau’r wlad yn hanfodol i Gymru.
“Dyma ein marchnad allforio fwyaf, gyda bron 300 o gwmnïau Americanaidd yn weithredol yng Nghymru a gwerth bron £3 biliwn o gynnyrch o Gymru yn cael ei allforio i’r Unol Daleithiau yn 2012.
“Rydyn ni eisiau meithrin y cysylltiadau hyn ymhellach fyth, gan agor drysau i fusnesau o Gymru fanteisio ar y farchnad Americanaidd ac annog buddsoddiad yng Nghymru gan gwmnïau o’r Unol Daleithiau.
“Dyna pam yr arweiniais daith fasnach i San Fransisco a’r Silicon Valley yn gynharach eleni a dyna pam fy mod i mor falch bod y Llysgennad Barzun wedi dod i Gymru.