Mae Cyngor Môn newydd ganiatau cynlluniau dadleuol i ddatblygu 800 o gabanau gwyliau a pharc gwledig ar yr ynys.

Fe fu’n rhaid i’r cynlluniau gael eu hail-gyflwyno ar ôl cael eu gwrthod y mis diwetha’ gan gynghorwyr – a hynny er bod swyddogion y Cyngor wedi argymell y dylid derbyn a chaniatau y cynlluniau.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb yn “siomedig i’r penderfyniad” ar gyfer safle ym Mhenrhos ger Caergybi.

Yn gynharach yn y dydd, daeth hanner cant o bobl ynghyd mewn rali er mwyn galw ar bwyllgor cynllunio’r Cyngor i gadw at ei benderfyniad i beidio â chymeradwyo cais cynllunio gan gwmni Land & Lakes i adeiladu tai gwyliau ar yr ynys.

Dywedodd Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd: “Rydyn ni’n siomedig iawn i glywed y newyddion heddiw. Mae’r cwmni a’r adran gynllunio wedi datgan na fydd rhaid cynnal asesiad o effaith iaith y datblygiad, sydd yn dangos yn glir bod ffaeleddau amlwg yn y cais.

“Dydi hwn ddim yn ddatblygiad cynaliadwy oherwydd fe fydd yn tanseilio’r Gymraeg yn ogystal â’r amgylchedd. Os caniateir i’r datblygiad fynd yn ei flaen, golyga hynny adeiladu mewn ardal o harddwch naturiol arbennig, heb sôn am ddinistrio’r hyn sydd yn gwneud Cymru yn arbennig yn y lle cyntaf.

“Oherwydd ein bod yn credu y byddai datblygiad o’r fath yn sicr o fod yn niweidiol i sefyllfa fregus y Gymraeg yn y sir,” meddai Osian Jones wedyn. “Mae angen datblygu economi Ynys Môn, ond hynny mewn ffordd sensitif a chynaliadwy, sydd ddim yn niweidio’r hyn sydd yn gwneud ein gwlad yn arbennig.”