Clywodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad yn y Senedd heddiw nad yw hi’n debygol y bydd estyniad i draffordd yr M4 yn ardal Casnewydd yn cael ei adeiladu cyn 2020.
A daeth cyhoeddiad arall gan yr Athro Stuart Cole, sef bod y gost o adeiladu’r draffordd newydd yn “cynyddu’n sylweddol” – tua 10% bob blwyddyn.
Credir fod angen £1 biliwn ar gyfer adeiladu’r draffordd yn ardal Casnewydd.
Dadlau
Mae’r M4 wedi bod yn bwnc dadleuol ers peth amser. Er bod rhannau o’r ffordd wedi cael eu newid fel bod posib defnyddio tair lôn, nid oes cynlluniau pendant i adeiladu ffordd a fyddai’n osgoi traffig Casnewydd.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus mewn lle ac mae Aelodau Seneddol wedi cychwyn trafod a chlywed tystiolaeth gan sefydliadau allweddol.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ddatgan heddiw y byddai’r draffordd yn cael effaith negyddol ar amgylchedd Gwent yn ogystal ag ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol. Dywedodd yr asiantaeth fod hyn yn benodol oherwydd bod yr ardal yn gartref i ystlumod, dyfrgwn a phathewod (doormice).
Ond roedd Sefydliad Gweithwyr Peirianneg Sifil Cymru yn croesawu cael traffordd newydd gan ddweud y byddai’n hwb i economi Cymru.
“Byddai’r datblygiad yn dod a swyddi i Gymru yn ystod y cyfnod adeiladu ac ar ôl hynny ond mae’r sefyllfa ar y funud yn atal hynny” dywedodd y Cyfarwyddwr, Keith Jones.
Mae disgwyl i’r ymgynghoriad cyhoeddus fod wedi gorffen cyn y Nadolig.