Brynhawn heddiw y cynhaliwyd angladd Ron Davies, y ffotograffydd o Aberaeron.
Ac ar ei arch, fe osodwyd ffotograff o’r dre’ y treuliodd y rhan fwya’ o’i fywyd ynddi.
Tra’n cario negeseuon i siop fferyllydd yn y dre’, ac yntau’n ddim ond 8 oed, y penderfynodd ei fod am fod yn dynnwr lluniau. Am ddegawdau, bu’n teithio Cymru yn ei gadair olwyn yn dal llefydd a chymeriadau.
Bu farw Ron Davies ddydd Sadwrn, Hydref 26, yn 91 mlwydd oed.